Ciw-restr

Nawr Yw Ei Hamser Hi

Llinellau gan Mrs Lloyd (Cyfanswm: 79)

 
(1, 0) 2 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach.
(1, 0) 3 Ti fuost yn hir iawn.
 
(1, 0) 7 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn.
 
(1, 0) 13 Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd.
 
(1, 0) 16 Mae e'n garedig iawn.
 
(1, 0) 18 Paid a smocio, wir, Dilys.
(1, 0) 19 Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets.
 
(1, 0) 22 Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna.
 
(1, 0) 30 Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser.
 
(1, 0) 33 Dilys, Dilys!
(1, 0) 34 Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te?
 
(1, 0) 39 Ydi Jane wedi ei gweld?
 
(1, 0) 44 O'r gorau, o'r gorau.
(1, 0) 45 Galw Letitia i ddod â glo ar y tân wir.
 
(1, 0) 47 Dyma chi ar y gair Letitia..
(1, 0) 48 Mae hi wedi oeri a...
 
(1, 0) 57 Gad iddi, Dilys.
 
(1, 0) 69 Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory.
(1, 0) 70 Mae hi'n dy leicio di.
 
(1, 0) 78 'Nawr, 'nawr, Dilys!
 
(1, 0) 84 Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys.
 
(1, 0) 94 Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro.
(1, 0) 95 Mae e'n dod â rhyw waith iddi bob dydd, fynychaf.
 
(1, 0) 108 Dyma syndod!
(1, 0) 109 Dewch ymlaen, Tabitha.
 
(1, 0) 118 Na, sonia Jane ddim am ei gollwng.
 
(1, 0) 126 'Rwy'n dal yn o debyg, diolch, ond i mi gael bod yn llonydd yn y gadair.
(1, 0) 127 Rych chithau'n iawn?
 
(1, 0) 144 Nag ydi, wir, Tabitha, ddim tebyg i chi.
(1, 0) 145 Fe fyn Dilys wario'r geiniog olaf.
 
(1, 0) 147 O, efallai!
 
(1, 0) 151 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw.
 
(1, 0) 160 Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn.
 
(1, 0) 165 'Roedd Mostyn yn ddyn da, Tabitha.
(1, 0) 166 Peidiwch...
 
(1, 0) 168 'Dallsai Mostyn ddim help, druan!
 
(1, 0) 171 Mostyn wyddai orau, â...
 
(1, 0) 173 Mae Rhagluniaeth wedi gofalu amdanom.
(1, 0) 174 'Roedd hi'n dynn ar y dechrau, ond fu dim rhaid derbyn help gan neb...
 
(1, 0) 176 Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim.
 
(1, 0) 199 Tewch 'nawr ferched!
(1, 0) 200 Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni.
 
(1, 0) 205 Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan!
 
(1, 0) 208 Do, do, Tabitha.
(1, 0) 209 'Rwy'n cofio mor falch oeddem pan enillodd e ddwy gini am stori yn steddfod fawr y Bont, a...
 
(1, 0) 216 Nag oedd, wir, Dilys.
(1, 0) 217 Dim rhagor o siarad, ferched.
(1, 0) 218 Beth am de, Jane?
(1, 0) 219 Ydi hi ddim yn bryd te?
 
(1, 0) 237 Tewch, wir, ferched.
 
(1, 0) 239 O'r gorau Jane.
(1, 0) 240 Bydda' i'n falch i gael cwpanaid.
 
(1, 0) 249 Na, na, Dilys fach.
(1, 0) 250 Paid â siarad fel yna.
 
(1, 0) 253 Na fydd.
(1, 0) 254 Mae Oswald yma byth a beunydd yn holi ei hynt.
 
(1, 0) 260 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah.
 
(1, 0) 266 Ydi, mae'n gwneud popeth iddi, o hyd.
(1, 0) 267 Edrychwch ar yr holl flodau a ddaeth e' yma neithiwr.
 
(1, 0) 285 Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro.
(1, 0) 286 Wyt ti'n edrych dim am dorri calon dyn, 'rwy'n ofni.
 
(1, 0) 294 Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig?
 
(1, 0) 296 Ydi wir.
(1, 0) 297 Dangos hi i dy fodryb.
 
(1, 0) 303 Ydyn, wir.
(1, 0) 304 Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach.
 
(1, 0) 339 'Nawr yw ei hamser hi, Jane.
 
(1, 0) 545 Jane fach... annwyl!
(1, 0) 546 Dyna drueni... na fyddai... dy dad yma 'nawr!...
(1, 0) 547 Mac Mostyn yn cael ei dalu... o'r diwedd, Tabitha...
(1, 0) 548 "yn dwyn ffrwyth... ar ei ganfed."
 
(1, 0) 552 Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu?
 
(1, 0) 560 Da 'merch i!
(1, 0) 561 Da 'merch i 'to!
(1, 0) 562 Dy dad sy'n fy nghynnal i o hyd.
(1, 0) 563 Fe sy'n cydio'n dy law...
(1, 0) 564 Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau."
 
(1, 0) 572 Gall, gall.
(1, 0) 573 Nawr yw ei hamser hi.